Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau statudol gydag adroddiadau clir

Dydd Llun 29 Mehefin 2015 13:30

 

CLA548 - Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gwybodaeth, Cyfnodau a Ffioedd ar gyfer Cofrestru a Thrwyddedu) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 15(1), 15(4), 16(1)(e), 19(1)(b) a (d), 21(4), 23(1)(b), 46 a 142(2) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ("y Ddeddf").

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r wybodaeth, y cyfnodau a'r ffioedd sy’n ofynnol ar gyfer cais i gofrestru a chais am drwydded o dan Rhan 1 o'r Ddeddf.  Mae'r Rhan honno yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhan fwyaf o landlordiaid anheddau domestig gofrestru gydag awdurdod trwyddedu dynodedig.  Mae trwydded yn ofynnol hefyd ar bersonau sy'n gosod neu'n rheoli'r rhan fwyaf o anheddau domestig o dan y Rhan honno.

 

 

CLA549 - Rheoliadau Addysg Uwch (Dynodi Darparwyr Addysg Uwch) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer dynodi darparwyr addysg uwch penodol yn sefydliadau at ddiben Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.  Yn ogystal, mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer tynnu dynodiad yn ôl ac effaith tynnu dynodiad yn ôl.

 

 

 

 

 

 

 

 

CLA550 - Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r uchafswm y bydd sefydliad sydd â chynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd mewn grym yn gallu ei godi drwy ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau gradd llawnamser.  Mae rheoliad 3 yn rhagnodi’r swm hwnnw fel £9,000 ac mae rheoliadau 4, 5 a 6 yn rhagnodi uchafsymiau is mewn cysylltiad â rhai cyrsiau.

 

 

CLA551 - Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau ffioedd a mynediad fel y’u diffinnir yn adran 2(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 ('Ddeddf 2015')

 

Yn benodol, mae'r Rheoliadau'n nodi'r wybodaeth sy'n ofynnol mewn cynllun ffioedd a mynediad, a'r materion y bydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn eu hystyried wrth drafod y cynllun i'w gymeradwyo. Mae'n rhaid i sefydliadau addysg uwch sydd am i gyrsiau gael eu dynodi'n awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr (fel y gall myfyrwyr fod yn gymwys ar gyfer grantiau ffioedd a benthyciadau) gael cynllun ffioedd a mynediad cymeradwy ar waith. Pan gaiff y cynllun ei gymeradwyo, daw'r sefydliad yn destun darpariaethau Deddf 2015.

 

 

CLA552 - Rheoliadau Safon Perfformiad Allyriadau (Gorfodi) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae Deddf Ynni 2013 yn gosod "dyletswydd terfyn allyriadau” ar weithredwyr gweithfeydd tanwydd ffosil penodol. Mae'r ddyletswydd terfyn allyriadau yn sicrhau nad yw allyriadau carbon deuocsid blynyddol y gellir eu priodoli i danwydd ffosil yn uwch na symiau penodol.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn creu cyfundrefn fonitro a gorfodi i Gymru mewn perthynas â dyletswydd terfyn allyriadau. Mae'r gyfundrefn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill: (i) gofyniad i weithredwr gweithfeydd tanwydd ffosil roi gwybodaeth i CANC mewn perthynas â chapasiti cynhyrchu, systemau dal a storio carbon a chyfansymiau cyfanswm allyriadau carbon deuocsid.

 

Os cred CANC bod gweithredwr wedi torri'r ddyletswydd terfyn allyriadau, caiff CANC gyflwyno hysbysiad gorfodi ar y gweithredwr. Caiff CANC hefyd gyflwyno hysbysiad cosb sifil ar weithredydd sydd wedi torri'r ddyletswydd terfyn allyriadau.

 

Mae'r rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer gweithredwyr i apelio yn erbyn hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau cosb sifil.

 

 

 

CLA553 - Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Diwygio) Cymru 2015

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 O.S. 2009/995 (fel y'i diwygiwyd) sy'n gweithredu Cyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol o ran atal ac adfer difrod amgylcheddol.